Access Keys:
Mae Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) yn gyfrifol am fuddsoddi arian cyhoeddus mewn ymchwil yn y DU i ddatblygu gwybodaeth a chreu syniadau newydd sydd yn arwain at economi gynhyrchiol, cymdeithas iach ac yn cyfrannu at fyd cynaliadwy.
Mae pob Cyngor Ymchwil yn ariannu ymchwil a gweithgareddau hyfforddi mewn maes ymchwil gwahanol ar draws y celfyddydau a’r dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, peirianneg a’r gwyddorau ffisegol a’r gwyddorau meddygol a bywyd.
Mae RCUK yn cefnogi dros 50,000 o ymchwilwyr yn cynnwys 19,000 o fyfyrwyr doethuriaeth, tua 14,000 o staff ymchwil a 2,000 o gymrodyr ymchwil mewn prifysgolion yn y DU ac yn eu Sefydliadau Ymchwil eu hunain.
Yn yr ardal hon mae mwy o wybodaeth ar gael am:
Weithgareddau: amcanion cyffredin a phrif ddulliau gweithio ar gyfer y Cynghorau Ymchwil.
Cyllid y Llywodraeth: sut mae’r Cynghorau Ymchwil yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth.
Llywodraethu: sut mae’r Cynghorau Ymchwil yn cael eu llywodraethu gan eu byrddau cynghori.
Mae saith Cyngor Ymchwil:
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) Cyngor Ymchwil Peirianneg a r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)