Mae Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) yn bartneriaeth strategol saith Cyngor Ymchwil y DU sy’n buddsoddi tua £3 biliwn yn flynyddol mewn ymchwil. Rydym yn cefnogi ymchwil ragorol, fel y barnwyd gan adolygiad gan gymheiriaid, sy’n cael effaith ar dwf, ffyniant a lles y DU. I gynnal safle ymchwil y DU yn fyd-eang, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ariannu, yn meithrin cydweithredu rhyngwladol ac yn rhoi mynediad i’r cyfleusterau a’r seilwaith gorau ar hyd a lled y byd. Rydym hefyd yn cefnogi hyfforddiant a datblygiad gyrfa ymchwilwyr ac yn gweithio gyda nhw i ysbrydoli pobl ifanc ac yn ymgysylltu’r cyhoedd ag ymchwil. Er mwyn cynyddu effaith ymchwil ar dwf economaidd a lles cymdeithas, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyllidwyr ymchwil eraill yn cynnwys y Bwrdd Strategaeth Technoleg, Cynghorau Cyllido Addysg Uwch y DU, busnes, y llywodraeth a sefydliadau elusennol. www.rcuk.ac.uk
Mae saith Cyngor Ymchwil y DU fel a ganlyn:
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC);
- Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC);
- Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC);
- Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC);
- Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC);
- Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC);
- Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).
Ynglŷn â Phartneriaeth RCUK
Mae Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) yn bartneriaeth strategol o Gynghorau Ymchwil y DU. Cafodd RCUK ei sefydlu yn 2002 i alluogi’r Cynghorau Ymchwil i gydweithio’n fwy effeithiol i wella effaith cyffredinol ac effeithiolrwydd eu hymchwil, eu hyfforddiant a’u gweithgareddau arloesi, gan gyfrannu at gyflenwi amcanion y Llywodraeth ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesi.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am:
Nodau a Threfniadaeth RCUK: sut mae RCUK yn gwneud y gorau o’r ffyrdd y mae’r Cynghorau Ymchwil yn cydweithio i gyflenwi eu nodau.
Grŵp Gweithredol yr RCUK: Mae partneriaeth RCUK yn cael ei arwain gan Brif Weithredwyr y Cyngor Ymchwil, sydd gyda’i gilydd yn berchen ar, yn llywio ac yn monitro’r gweithgareddau strategol a gweithredol sy’n cyflenwi cenhadaeth RCUK.
Mae pob un o’r Cynghorau Ymchwil yn bartner cyfartal yn RCUK, ac mae pob un yn ymdrechu i’r eithaf i nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd i weithio ar y cyd er budd y ddwy ochr gydag un neu fwy o’r Cynghorau eraill.
Mae Cynllun cyflenwi RCUK yn nodi blaenoriaethau’r Cynghorau ar gyfer cydweithio.